Gemau Cymru

2019

-

29-30 Mehefin: Bala

05-07 Gorffennaf: Caerdydd

Cysylltwch â ni

gemaucymru@urdd.org

02922 405346

Côd Ymddygiad

Côd Ymddygiad Athletwyr

1. Byddaf yn dangos yr un parch a thegwch tuag at eraill fel y disgwyliwn iddyn nhw ddangos i mi.

2. Byddaf yn cystadlu yn ôl y rheolau, gan barchu'r dyfarnwyr a'u penderfyniadau.

3. Parchaf y gwahaniaethau ymysg pawb fydd yn cystadlu yng Ngemau Cymru yn ôl eu hoedran, rhyw, hil, crefydd, rhywioldeb neu anableddau.

4. Ni fyddaf yn cynnwys fy hun mewn unrhywbeth anghyfreithlon nag unrhywbeth rydw i'n ei deimlo sy'n ddrwg.

5. Byddaf yn gwneud yn siŵr fod fy rheolwr tîm yn ymwybodol o ble ydw i trwy'r amser.

6. Ni fyddaf yn mynd i fewn i lety neb ond fy hun, a byddaf yn dychwelyd i fy ystafell fy hun erbyn 23:00 ar yr hwyraf (oni bai fod Tîm Gemau Cymru wedi nodi yn wahanol).

7. Byddaf yn rhoi gwybod i fy Rheolwr tîm am unrhyw anaf a allai atal cyfraniad llawn yn y gemau.

8. Deallaf mai fy nghyfrifoldeb i yw bod yn brydlon ac fy mod yn barod ar gyfer pob gweithgaredd.

9. Ni fyddaf yn bwlio na chymryd mantais o gystadleuydd arall.

10. Deallaf y bydd unrhyw doriadau yn y côd hwn yn golygu y caf fy anfon adref o'r gemau, gyda disgyblaeth gan y Corff Llywodraethu Cenedlaethol priodol i ddilyn.

English

Cysylltwch â ni

gemaucymru@urdd.org

02922 405346

Flickr