Gemau Cymru

2019

-

29-30 Mehefin: Bala

05-07 Gorffennaf: Caerdydd

Cysylltwch â ni

gemaucymru@urdd.org

02922 405346

Cwestiynau Cyffredin

Sut allai wirfoddoli?  

Yr unig ffordd i gofrestru eleni yw ar-lein. Cliciwch ar y tab cofrestru i fynd i’r dudalen gofrestru, yma fe fyddwch yn cael y cyfle i greu proffil gwirfoddolwr eich hun. Bydd y linc i gofrestru yn fyw ym mis Chwefror.

Pryd ddylwn i gofrestru fy niddordeb i wirfoddoli? 

Cadwch lygaid ar ein twitter @gemaucymru am y diweddaraf.

A fydda i’n derbyn unrhyw hyfforddiant? 

Bydd rhaid i bob gwirfoddolwr dderbyn hyfforddiant cyn gweithio yng Ngemau Cymru. 

Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal trwy sesiynau hyfforddiant ym mis Mehefin. Mae rhai rolau yn gofyn am fwy o hyfforddiant nag eraill. 

Am faint fydd disgwyl i mi wirfoddoli? 

Mae hyn yn dibynnu’n llwyr ar faint o amser sydd gennych chi yn rhydd a’r rôl rydym wedi ei ddewis i chi, ond byddwn yn cytuno ar amserlen ymlaen llaw. Mae cyfle i chi nodi ar y ffurflen gofrestru pa ddyddiau y byddwch chi ar gael pan yn cofrestru. Bydd dyddiadau ac amseroedd yn weladwy ar y bas data. Byddem yn gwerthfawrogi eich gonestrwydd ynglŷn â’r oriau allwch chi gynnig. Byddwn yn cynnig rôl sydd yn addas i’ch oriau chi.

Beth fydd rhaid i ni wisgo wrth wirfoddoli yn y Gemau? 

Byddwn yn darparu crys-t pwrpasol i wirfoddolwyr wisgo yn ystod y Gemau. Bydd gwirfoddolwyr yn derbyn bag cefn a chrys-t i wisgo. Bydd disgwyl i wirfoddolwyr wisgo trowsus tracwisg/ shorts glas neu du.

Bydd cyfle i ddewis maint eich crys-t pan yn cofrestru i wirfoddoli.

Pa oedran gaiff wirfoddoli?

Mae rhaid i bawb sydd yn gwirfoddoli fod yn 16 oed neu’n hŷn.

Pryd fyddai’n derbyn ymateb parthed fy nghais i wirfoddoli? 

Yn syth ar ôl cofrestru fe fyddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau eich bod wedi cofrestru’n llwyddiannus. Yn yr e-bost, bydd cyfrinair yn cael ei gynnwys er mwyn i chi dderbyn mynediad i’ch proffil gwirfoddolwr. Mae’n bwysig eich bod chi’n cadw cofnod o’r cyfrinair.  Os nad ydych wedi derbyn ebost, cysylltwch â ni yn syth.

Alla i ddewis y lleoliad a’r chwaraeon y bydda i’n gwirfoddoli iddynt?  

Mae yna gyfle i chi nodi ar y ffurflen gais pa chwaraeon/lleoliad fydd eich dewis cyntaf, ond mae’n bwysig nodi na allwn sicrhau y dewis hwn. 

Oes cyfle i mi wirfoddoli gyda’m ffrindiau a theulu? 

Oes, mae angen sicrhau bod eich ffrindiau/teulu wedi cofrestru ymlaen llaw ac yna byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau eich bod yn gwirfoddoli gyda’ch gilydd.

Sut fyddai’n gwybod lle a pryd fyddai’n gweithio?  

Ar ôl y dyddiad cau, fe fyddwn yn gosod rolau i wirfoddolwyr yn seiliedig ar eu dewisiadau a’u argaeledd. Fe fyddwn ni’n gosod y wybodaeth yma ar fas data'r gwirfoddolwyr a byddwch yn derbyn e-bost sy’n hysbysebu eich gwybodaeth sifft. Bydd rhaid i chi gadarnhau eich sifftiau ar eich proffil gwirfoddolwyr. Byddwch yn ymwybodol o’ch rolau cyn mynychu’r diwrnodau hyfforddiant.   

Ydi'n bosib i mi wirfoddoli os oes gennyf anabledd?

Gallwch. Mae posib i wirfoddolwyr anabl weithio mewn amryw o rolau. Os oes gennych chi unrhyw bryderon peidiwch ag oedi cysylltu â ni: 02922 405336

A fydd llety a thrafnidiaeth ar gael i wirfoddolwyr? 

Na, yn anffodus nid oes gan Gemau Cymru'r gyllideb i dalu am lety na thrafnidiaeth i wirfoddolwyr. 

Gyda phwy y dylwn i siarad os oes gennyf gwestiwn/problem? 

gemaucymru@urdd.org neu 02922 405336

English

Cysylltwch â ni

gemaucymru@urdd.org

02922 405346

Flickr