Gemau Cymru

2019

-

29-30 Mehefin: Bala

05-07 Gorffennaf: Caerdydd

Cysylltwch â ni

gemaucymru@urdd.org

02922 405346

Cwestiynau Cyffredin

A fydd Gemau Cymru yn cynnig trafnidiaeth rhwng y gwahanol leoliadau cystadlu?

Bydd bws Gemau Cymru ar gael rhwng y Pentref Athletwyr a’r lleoliadau cystadlu.

A fydd Cymorth Cyntaf ar gael os bydd angen? 

Bydd Cymorth Cyntaf/ Ffisiotherapyddion yn bresennol ym mhob lleoliad cystadlu.

Ydi’r cyhoedd / teulu / ffrindiau yn cael dod i wylio a chefnogi?

Wrth gwrs mae croeso i bawb i wylio a chefnogi Gemau Cymru. Mae pob digwyddiad (heblaw am yr Athletau) am ddim i gefnogwyr a nid oes angen archebu tocynnau o flaen llaw.

Pwy sydd yn cael cystadlu yn Gemau Cymru?

Mae pob maes gyda system ddethol ei hun sydd wedi ei chynghori gan y Corff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol. Unwaith mae’r strwythur wedi ei chadarnhau bydd y wybodaeth yma ar gael ar y wefan a bydd y cystadleuwyr llwyddiannus yn cael gwahoddiad swyddogol.

Oes rhaid i athletwyr aros yn y Pentref Athletwyr?

Rydym yn annog pobl i aros yn y Pentref, Rydym yn awyddus bod Gemau Cymru yn ŵyl sy’n efelychu Gemau a chystadlaethau byd enwog. Mae’r Pentref Athletwyr yn rhoi cyfleoedd unigryw i gystadleuwyr megis cymdeithasu, cwrdd â ffrindiau newydd ac i ymgymryd yng nghwir ysbryd y gemau.

Gyda pwy ddylwn i siarad os oes gennyf gwestiwn/problem?

gemaucymru@urdd.org  02922 405336

English

Cysylltwch â ni

gemaucymru@urdd.org

02922 405346

Flickr