Gemau Cymru

2019

-

29-30 Mehefin: Bala

05-07 Gorffennaf: Caerdydd

Cysylltwch â ni

gemaucymru@urdd.org

02922 405346

Tenis Bwrdd

TTWales_Logo.png

________________________________________________

Y weledigaeth o fewn Tennis bwrdd Cymru yw ‘I bawb, am byth’, sy’n cyd-fynd ag ethos Gemau Cymru.  Mae cyfranogwyr Tennis bwrdd yng Nghymru yn dal i gynyddu, gyda mwy o glybiau’n agor i ddatblygu’r gamp.  Mae gan Ffederasiwn Tennis Bwrdd Rhyngwladol 226 o wledydd cysylltiedig sy’n golygu bod pob gwlad yn y byd bellach gyda tenis bwrdd wedi ei drefnu fel math o chwaraeon.  Mae tennis bwrdd wir yn cael ei chwarae ym mhob cwr o’r byd. Mae Tennis Bwrdd Cymru yn edrych ymlaen at roi cyfle i bobl ifanc chwarae mewn digwyddiad aml-chwaraeon, a fydd y neu harwain at y Gymanwlad a gemau Olympaidd.

Llysgennad Tennis Bwrdd

Lauren Stacey

Roeddwn yn 6 oed y tro cyntaf i mi godi bat tenis bwrdd, a hynny ar wyliau yn Sbaen. Bryd hynny, nid oeddwn yn ymwybodol o’r ffaith nad gêm oedd tenis bwrdd, ond camp. Lauren Stacey  ydw i, ac rwyf wedi bod yn chwarae tenis bwrdd ers pum mlynedd bellach. Ar ôl ymuno â Chlwb Tenis Bwrdd Llaneirwg yn 10 oed, datblygais gariad ac angerdd tuag at y gamp. Yn dilyn hanner degawd o chwarae, ymarfer a chystadlu rwyf wedi dod yn ymwybodol o'r ffaith bod chwarae tenis bwrdd wedi agor drysau newydd i mi mewn amryw o ffyrdd. O allu cystadlu a theithio i wahanol wledydd i wneud ffrindiau o leoedd a diwylliannau amrywiol. Rwy'n edrych ymlaen ac yn frwdfrydig i ddechrau tymor 2019-2020 ac rwy'n awyddus i wella gan mai fy ngobaith yn y dyfodol agos yw cael fy newis i chwarae yng Ngemau'r Gymanwlad.

 

 

Timau

Caerdydd

Rhondda

Caerffili

Merthyr

Abertawe A

Blaenau Gwent

Y fro a Pen-Y-Bont ar Ogwr

Abertawe B

English

Cysylltwch â ni

gemaucymru@urdd.org

02922 405346

Flickr