Gemau Cymru

2019

-

29-30 Mehefin: Bala

05-07 Gorffennaf: Caerdydd

Cysylltwch â ni

gemaucymru@urdd.org

02922 405346

Pentref Athletwyr

Lleoliad Pentref Athletwyr Gemau Cymru 2019:

Talybont, Prifysgol Caerdydd


Mae llety Talybont wedi ei leoli tua milltir o ganol dinas Caerdydd. Am rhagor o wybodaeth, gweler isod.


Darparir llety am gost o £25 sy'n cynnwys swper, brecwast a chinio 

  • Mae pob ystafell yn ystafell sengl en-suite
  • Mae pob fflat yn cynnwys cegin ac ystafell fwyta, yn ogystal ag offer coginio
  • Cwpwrdd dillad, desg, silffoedd a chadair ym mhob ystafell wely, wedi'i darparu â dillad gwely a thyweli 'molchi
  • Bydd tê a choffi yn cael ei cyflenwi yn ddyddiol ym mhob cegin
  • Bydd rhwydwaith di-wefr ar gael i'r gwesteion (am ddim)
  • Parcio am ddim

Preswyliad Talybont, Prifysgol Caerdydd
Credyd Llun: cardiff.ac.uk

Arlwyo

Pecyn Bwyd fydd yn cynnwys brecwast, cinio (bocs bwyd) a swper

Bydd pryd 2 gwrs ar gael yn y Ganolfan Gymdeithasol o 18:00-20:00

Bydd brecwast ar gael yn y Ganolfan Gymdeithasol o 06:30 - 08:30 

Mae posib casglu'r pecynnau bwyd yn ôl yr angen yn ystod brecwast i fynd i'r lleoliad chwaraeon.


Canolfan Gymdeithasol Talybont

Bydd y Ganolfan Gymdeithasol ar agor tan: 23:00

Bydd staff yn y Ganolfan Gymdeithasol (CJ's) 24/7.

  • Man eistedd cyfforddus
  • Plygiau pŵer
  • Bwrdd pŵl x2
  • Offer Tenis Bwrdd
  • 42”  Teledu plasma gyda Wii x3
  • 42” Teledu plasma a 2 daflunydd yn dangos chwaraeon yn fyw x2
  • Amrediad eang o gemau bwrdd

Ystafell wely preswyl Talybont, Prifysgol Caerdydd
Credyd Llun: deanestor.co.uk

Gwybodaeth Ychwanegol

Talybont

Bydd allweddi ar gael i'w casglu o 15:00. 

Mae'r dderbynfa yn Nhalybont (Southgate House) ar agor o 08:00 - 22:00.

Os bydd unrhyw westeion yn cyrraedd ar unrhyw adeg arall, cysylltwch â ni er mwyn gwneud trefniadau eraill.

Fel arall, cysylltwch a'r Adran Diogelwch wedi cyrraedd ar +44 (0) 29 2087 4444

Cyfeiriad y llety yw:

Talybont Gogledd
Southgate House
Bevan Place
Caerdydd
CF14 3UX

Rhif Ffôn: +44 (0) 29 2087 4660

Map o'r preswyl

Nodwch nad oes unrhyw lifftiau (elevators) yn yr adeilad,  felly os oes unrhyw westeion gydag unrhyw anghenion arbennig neu angen cymorth i adael yr adeilad mewn achos larwm tân, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda.

Ar y diwrnod olaf dylid gadael yr ystafelloedd erbyn 10:00 oni bai bod trefniadau eraill wedi eu cytuno gyda'r dderbynfa.

Bydd Diogelwch ar y safle drwy gydol y digwyddiad.

Gellwch gysylltu â Diogelwch drwy ffonio’r ystafell rheoli ar +44 (0) 29 20874444 .

English

Cysylltwch â ni

gemaucymru@urdd.org

02922 405346

Flickr