29-30 Mehefin: Bala
05-07 Gorffennaf: Caerdydd
gemaucymru@urdd.org
A fydd Gemau Cymru yn cynnig trafnidiaeth rhwng y gwahanol leoliadau cystadlu?
Bydd bws Gemau Cymru ar gael rhwng y Pentref Athletwyr a’r lleoliadau cystadlu.
A fydd Cymorth Cyntaf ar gael os bydd angen?
Bydd Cymorth Cyntaf/ Ffisiotherapyddion yn bresennol ym mhob lleoliad cystadlu.
Ydi’r cyhoedd / teulu / ffrindiau yn cael dod i wylio a chefnogi?
Wrth gwrs mae croeso i bawb i wylio a chefnogi Gemau Cymru. Mae pob digwyddiad (heblaw am yr Athletau) am ddim i gefnogwyr a nid oes angen archebu tocynnau o flaen llaw.
Pwy sydd yn cael cystadlu yn Gemau Cymru?
Mae pob maes gyda system ddethol ei hun sydd wedi ei chynghori gan y Corff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol. Unwaith mae’r strwythur wedi ei chadarnhau bydd y wybodaeth yma ar gael ar y wefan a bydd y cystadleuwyr llwyddiannus yn cael gwahoddiad swyddogol.
Oes rhaid i athletwyr aros yn y Pentref Athletwyr?
Rydym yn annog pobl i aros yn y Pentref, Rydym yn awyddus bod Gemau Cymru yn ŵyl sy’n efelychu Gemau a chystadlaethau byd enwog. Mae’r Pentref Athletwyr yn rhoi cyfleoedd unigryw i gystadleuwyr megis cymdeithasu, cwrdd â ffrindiau newydd ac i ymgymryd yng nghwir ysbryd y gemau.
Gyda pwy ddylwn i siarad os oes gennyf gwestiwn/problem?
gemaucymru@urdd.org 02922 405336