29-30 Mehefin: Bala
05-07 Gorffennaf: Caerdydd
gemaucymru@urdd.org
________________________________________________
Lleoliad: Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru
''Mae codi pwysau Cymru yn hynod gyffrous i fod yn rhan o ddigwyddiad aml-chwaraeon Gemau Cymru unwaith eto. Mae Gemau Cymru wedi ychwanegu dyfnder i ein calendr blynyddol ag yn sicr o chwarae rôl yn natblygiad perfformiad codi pwysau ieuenctid.''
Fy enw i yw Daniel Davies. Rwy’n fyfyriwr ym mlwyddyn 8 Ysgol Uwchradd Hwlffordd ac rwyf yn ymarfer yn Academi Cryfder Cymru, Hwlffordd. Dechreuais godi pwysau am y tro cyntaf trwy fynychu clwb ysgol a oedd yn gysylltiedig ag Academi Cryfder Cymru. Un o fy nghystadlaethau cyntaf oedd yng Ngemau Cymru. Roeddwn yn gwybod bryd hynny bod codi pwysau yn rhywbeth roeddwn yn mwynhau'n fawr, yn enwedig cystadlu mewn lleoliad anhygoel yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru a chael llawer o gefnogaeth gan yr hyfforddwyr a'r swyddogion.
Rwy'n teimlo'n ffodus iawn o’r cyfleoedd rwyf yn ei dderbyn drwy godi pwysau, fel cystadlu yn fy nghystadleuaeth gyntaf yn 2018 yn y frwydr iau yn Awstria. Mae bod yn rhan o garfan talent Cymru wedi fy nghaniatáu i gwrdd â phobl arbennig ac rwyf eisoes wedi gwneud llawer o ffrindiau trwy godi pwysau yng Nghymru. Mae’n fraint cael cynrychioli ein camp yng Ngemau Cymru ac rwy’n edrych ymlaen at gystadlu.