29-30 Mehefin: Bala
05-07 Gorffennaf: Caerdydd
gemaucymru@urdd.org
Lleoliad: Pentref Hyfforddiant Chwaraeon, Talybont
Mae Hoci Cymru wedi gwirioni gyda'r newyddion eu bod wedi cael eu derbyn i fod yn rhan o Gemau Cymru eleni. ''Bydd mynychu cystadleuaeth aml-chwaraeon yn rhoi'r cyfle i ein hathletwyr dawnus chwarae mewn cystadleuaeth safonol yn ogystal â rhoi'r cyfle a'r ymdeimlad o fod mewn pentref athletwyr, a fydd o gymorth i'w datblygiad cymdeithasol a diwylliannol.
Yn ogystal â hynny, bydd digwyddiad dwyieithog yn brofiad unigryw i'r athletwyr, nid yn unig o safbwynt balchder cenedlaethol ond hefyd wrth i ni barhau i geisio darparu ystod eang o arbrofion datblygiadol''
Datblygodd Cari drwy lwybr hyfforddi Cymru, gan symud o 360 i raglen Aspire ac yna ymlaen i gynrychioli Cymru ar lefel y Grŵp Oedran Cenedlaethol. Gwnaeth Cari ei hymddangosiad cyntaf ar y lefel uwch yn 2018 yn erbyn Gwlad Pwyl yn 17 oed.
'Rwy'n falch iawn o fod yn gysylltiedig â Hoci Cymru a Gemau Cymru ar gyfer y digwyddiad hwn. Fel chwaraewr sydd wedi dod drwy'r llwybr 360, mae'n wych gweld bod y rhaglen yn mynd o nerth i nerth ac yn darparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau fel Gemau Cymru. Rwy'n gobeithio bydd y chwaraewyr yn mwynhau'r digwyddiad ac yn ei ddefnyddio fel cyfle arall i ddatblygu eu camp. Rwy'n siŵr y bydd rhai o'r chwaraewyr yn mynd ymlaen i fod yn chwaraewyr rhyngwladol yn y dyfodol, ac efallai y bydd rhai ohonynt yn cyd-chwarae gyda mi yn y sgwad merched hŷn. '