29-30 Mehefin: Bala
05-07 Gorffennaf: Caerdydd
gemaucymru@urdd.org
________________________________________________
Lleoliad: Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru
Y weledigaeth o fewn Tennis bwrdd Cymru yw ‘I bawb, am byth’, sy’n cyd-fynd ag ethos Gemau Cymru. Mae cyfranogwyr Tennis bwrdd yng Nghymru yn dal i gynyddu, gyda mwy o glybiau’n agor i ddatblygu’r gamp. Mae gan Ffederasiwn Tennis Bwrdd Rhyngwladol 226 o wledydd cysylltiedig sy’n golygu bod pob gwlad yn y byd bellach gyda tenis bwrdd wedi ei drefnu fel math o chwaraeon. Mae tennis bwrdd wir yn cael ei chwarae ym mhob cwr o’r byd. Mae Tennis Bwrdd Cymru yn edrych ymlaen at roi cyfle i bobl ifanc chwarae mewn digwyddiad aml-chwaraeon, a fydd y neu harwain at y Gymanwlad a gemau Olympaidd.
Roeddwn yn 6 oed y tro cyntaf i mi godi bat tenis bwrdd, a hynny ar wyliau yn Sbaen. Bryd hynny, nid oeddwn yn ymwybodol o’r ffaith nad gêm oedd tenis bwrdd, ond camp. Lauren Stacey ydw i, ac rwyf wedi bod yn chwarae tenis bwrdd ers pum mlynedd bellach. Ar ôl ymuno â Chlwb Tenis Bwrdd Llaneirwg yn 10 oed, datblygais gariad ac angerdd tuag at y gamp. Yn dilyn hanner degawd o chwarae, ymarfer a chystadlu rwyf wedi dod yn ymwybodol o'r ffaith bod chwarae tenis bwrdd wedi agor drysau newydd i mi mewn amryw o ffyrdd. O allu cystadlu a theithio i wahanol wledydd i wneud ffrindiau o leoedd a diwylliannau amrywiol. Rwy'n edrych ymlaen ac yn frwdfrydig i ddechrau tymor 2019-2020 ac rwy'n awyddus i wella gan mai fy ngobaith yn y dyfodol agos yw cael fy newis i chwarae yng Ngemau'r Gymanwlad.
Caerdydd
Rhondda
Caerffili
Merthyr
Abertawe A
Blaenau Gwent
Y fro a Pen-Y-Bont ar Ogwr
Abertawe B