Gemau Cymru

2019

-

29-30 Mehefin: Bala

05-07 Gorffennaf: Caerdydd

Cysylltwch â ni

gemaucymru@urdd.org

02922 405346

Rolau

Mae Gemau Cymru angen nifer o wirfoddolwyr mewn gwahanol rolau i sicrhau gŵyl lwyddiannus. Ceisiwn sicrhau ein bod yn cynnig eu rôl o ddewis i wirfoddolwyr; ond yn anffodus nid yw’n bosib bob tro. 

Mae Gemau Cymru yn ddigwyddiad dwyieithog ac mae croeso i wirfoddolwyr Cymraeg a di-Gymraeg gofrestru. 


Eleni rydym wedi penodi dau rôl gwahanol i wirfoddolwyr:

Cynorthwy-ydd Cystadleuaeth

Cynorthwy-ydd Gweinyddol 


Gwirfoddolwyr sydd yn delio’n uniongyrchol gyda’r cystadleuaethau

  • Cynorthwyr Cystadleuaethau Maes - Athletau
  • Cynorthwyr Canlyniadau – Athletau
  • Cynorthwydd Timau - Tenis Bwrdd 

Bydd y rôlau yma hefyd yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:

  • Dosbarthu'r canlyniadau o amgylch y safleoedd perthnasol
  • Cynorthwyo gyda seremonïau gwobrwyo
  • Cefnogi’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol i wneud yn siŵr bod popeth yn rhedeg yn y modd mwyaf effeithiol bosib
  • Helpu i osod a chlirio’r ardal chwarae ar ddechrau a diwedd y gystadleuaeth

 

Gwybodaeth ychwanegol

Bydd oriau y gwirfoddoli/shifts yn dibynnu ar amser cychwyn a gorffen y cystadleuaethau y byddwch yn helpu gyda. Efallai bydd angen i'r gwirfoddolwyr gwblhau hyfforddiant ychwanegol er mwyn sicrhau bod y gwirfoddolwyr yn medru cwblhau eu dyletswyddau yn effeithiol.

 

Cynorthwy-ydd Gweinyddol  

Gwirfoddolwyr sydd yn gyfrifol am elfennau gweinyddol y gystadleuaeth:

  • Cofrestru cystadleuwyr
  • Ymholiadau
  • Stiwardio (yn wahanol i marsialiaid)
  • Paratoi’r safle/lle chwarae ar ddechrau’r gystadleuaeth
  • Parcio a tywys cystadleuwyr a gwylwyr

Gwybodaeth ychwanegol

Bydd y 'shifts' yma yn ddibynnol ar amser y gystadleuaeth y byddwch yn gweithio ynddi. 

 

 

Cliciwch ar y tab hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

English

Cysylltwch â ni

gemaucymru@urdd.org

02922 405346

Flickr